I gysylltu â’r gwasanaeth Cymorth CCAD, cwblhewch y ffurflen isod a bydd un o’n ymgynghorwyr yn cysylltu’n ôl â chi.
O ganlyniad i’r amgylchiadau esblygol o gwmpas y pandemig Covid19, a natur fregus ein sylfaen gleientiaid, mae National Energy Action wedi gwneud y penderfyniad i gyfyngu ar rai gweithgareddau gan gynnwys ymweld â chartrefi a chyflwyno digwyddiadau/gweithdai.
Byddwn yn dal i weithio hyd eithaf ein gallu i gefnogi aelwydydd ond bydd hyn wedi’i gyfyngu i roi cyngor dros y ffôn ac ar-lein. Diolch am eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod ansicr yma. |
Mae Gwasanaeth Cymorth Cartrefi Clyd a Diogel NEA yn wasanaeth cefnogi am ddim sy’n darparu cyngor i deiliaid cartrefi yng Nghymru a Lloegr ar eu biliau ynni a chadw’n gynnes ac yn ddiogel yn eu cartrefi.
Beth sydd ar gael
- Cefnogaeth wyneb yn wyneb, dros y ffôn/ar-lein ar gyfer deiliaid cartrefi a gweithwyr achos
- Sesiynau ymgysylltu/gweithdai/digwyddiadau cymunedol (cysylltwch â WASH@nea.org.uk i gael mwy o wybodaeth).
- Hyfforddiant ar gyfer staff rheng flaen
Gallwn eich helpu gyda
- Chofrestru ar Gofrestr Gwasanaethau Blaenoriaeth eich cyflenwr
- Ymgeisio am yr ad-daliad Disgownt Cartrefi Cynnes o £140*
- Newid cyflenwyr
- Effeithlonrwydd ynni yn y cartref
- Ceisiadau am grantiau ac i ymddiriedolaethau
- Cyd-drafodaethau gyda darparwyr ynni a dŵr
- Cyngor ar fudd-daliadau, p’un a oes gennych hawl i’w derbyn ai beidio a chefnogaeth i hawlio
- Ceisiadau am gyllid caledi mewn argyfwng*
*mae’n bosib y bydd meini prawf cymhwystra yn berthnasol
Ffyrdd o gysylltu â’r gwasanaeth cymorth
- Gallwch siarad ag ymgynghorydd yn uniongyrchol trwy ffonio 0800 304 7159 / SignVideo
- Os ydych yn cysylltu â ni i gael cyngor penodol ar fudd-daliadau, gallwch gysylltu â’n tîm Hawlio Budd-daliadau’n uniongyrchol ar 0800 138 8218
- Mae gan y gwasanaeth ei dudalen Facebook benodedig ei hun. Os byddwch yn sgwrsio â ni, fe gewch eich cymryd yn uniongyrchol i un o’n Cydlynwyr Datblygu Prosiect a all roi cyngor wedi’i deilwra i chi.
- Gall asiantaethau roi atgyfeiriadau neu gall cleientiaid hunangyfeirio trwy lenwi ffurflen syml.
Bydd eich atgyfeiriad yn cael ei brosesu’n ddiogel a bydd ymgynghorydd yn cysylltu â’ch cleient.
Bydd pob atgyfeiriad yn cael ei asesu i adnabod cyfleoedd am gefnogaeth gan dîm mwyafu incwm NEA, ymgynghorwyr ynni a’n partneriaid yr ymddiriedir ynddynt. Cysylltwch â wash@nea.org.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.